Pam na fu Cymru

Pam na fu Cymru: Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg

Simon Brooks
Copyright Date: 2015
Edition: 1
Stable URL: http://www.jstor.org/stable/j.ctt17w8h4k
  • Cite this Item
  • Book Info
    Pam na fu Cymru
    Book Description:

    During the nineteenth century, the Age of Nationalism, small stateless nations all over Europe developed successful national movements which demanded rights for minority language communities. One of the central questions of Welsh history is why this didn’t happen in Wales. Welsh patriotism emphasised radicalism and liberalism, which subsumed Wales within the discourse of British progressive politics. Liberalism promotes majoritarian identities, and in Wales is a key component of British hegemony. Wales in the nineteenth century was more liberal and radical than almost any other country in Europe. Contrary to the popular view that this was a boost for Welsh nationalism, Pam na fu Cymru (Why Wales never happened) shows that this was the very reason for its failure.

    eISBN: 978-1-78316-234-5
    Subjects: Political Science
    × Close Overlay

Table of Contents

Export Selected Citations
  1. Front Matter (pp. i-viii)
  2. Table of Contents (pp. ix-x)
  3. Rhagair (pp. xi-xiv)
    Simon Brooks

    Mewn caffis ar Simon-Dach Straße ym Merlin yr ysgrifennais ran gyntaf y llyfr hwn, ac mewn caffis ar Stryd Fawr Porthmadog y cafodd ei gwblhau. Daeth y pwl olaf, mwy sylweddol o ysgrifennu ar ganol cyfnod hir iawn o fod yn ddi-waith. HGallaf gydymdeimlo erbyn hyn gyda Bob Owen, Croesor sy’n sôn yn ei hunangofiant am fynd ’i Borthmadog i “seinio” bob wythnos... yng ngŵydd pawb a ymlwybrai heibio... bu bron iawn i’r amgylchiadau fy ngwneud yn Folshi.’ Ond daeth y byd academaidd i’w achub yntau, ac fully y bu gweithio ar y llyfr hwn o gryn gymorth i mi....

  4. Nodyn: Iaith a Thermau (pp. xv-xviii)
  5. Map: Cenhedloedd Brenhiniaeth Habsbwrg (pp. xix-xx)
  6. 1 Methiant Annisgwyl Cenedlaetholdeb Cymraeg (pp. 1-26)

    Pam nad yw Cymru heddiw’n wlad Gymraeg ei hiaith? Pam nad yw Cymru heddiw’n wlad annibynnol? Sut y gallai gwlad a oedd yn 1850 yn uniaith Gymraeg dros y rhan fwyaf o’i thiriogaeth fod o fewn dim i golli’r iaith cyn pen can mlynedd? Diffyg datblygiad mudiad cenedlaethol Cymreig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n bennaf gyfrifol am hyn, a phan gafwyd o’r diwedd gamau egwan i’r cyfeiriad hwnnw yn y 1880au a’r 1890au, nid oedd iaith yn ganolog i’r weledigaeth. Mewn rhannau eraill o Ewrop, cafwyd twf mewn cenedlaetholdeb ymhlith cenhedloedd a phobloedd ddiwladwriaeth. Ac roedd eu...

  7. 2 Cenedl Iaith (pp. 27-48)

    Beth oedd yn gyfrifol am y dryswch syniadaethol hwn? Dechreuir ymhél â’r cwestiwn hwn trwy fwrw golwg ar yr Oleuedigaeth, y mudiad athronyddol yn y ddeunawfed ganrif a ddiffiniodd seiliau deallusol y byd modern, a’r ymateb Cymraeg iddi. Nodweddid yrAufklärung , y Lumières neu’r Enlightenment, sef yr Oleuedigaeth, gan bwyslais newydd ar reswm, a chan honiadau ynghylch natur gwirionedd, a’r hawl i ddiffinio gwirionedd. O’r herwydd ceid pwyslais cynyddol ar gyfrwng rheswm, sef iaith.

    Aed ati gan hynny i resymegu iaith, ond wrth gychwyn ar y dasg frawychus hon, wynebai’r Oleuedigaeth fyd a oedd yn frith o ieithoedd a...

  8. 3 Rhyddfrydiaeth yn Gorthrymu’r Cymry (pp. 49-86)

    Mewn rhyddiaith loyw yn eiHanes Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymthegmae gan yr hanesydd tra rhyddfrydol, tra Llafur aidd a thra anghydffurfiol hwnnw, R. T. Jenkins, rywbeth rhyfedd i’w ddweud yngl} n â’r Hen Bersoniaid Llengar, yr enghraifft orau o’r traddodiad Anglicanaidd, ceidwadol Cymraeg y dylasai hanes ydd o’i broffes yntau fod wedi tynnu’n groes iddo:

    Buasai bywyd Cymru heddiw’n dlotach ac yn fwy unllygeidiog heb waith y gwŷr a fynnodd le yn ein hymwybyddiaeth genedlaethol i bethau hŷn o lawer, dyfnach, a mwy hanfodol innifel cenedl, na Methodistiaeth a Radicaliaeth.¹

    Beth gebyst oedd gan R....

  9. 4 Dadadeiladu Rhyddfrydiaeth (pp. 87-108)

    Gwrthwyneb Rhyddfrydiaeth mewn theori wleidyddol yw Cymunedolaeth (communitarianism). Tra bo Rhyddfrydiaeth yn rhoi pwyslais mawr ar ryddid yr unigolyn, a’i hawl i weithredu er ei les ei hun, ymdrecha Cymunedolaeth i ddiffinio buddiannau unigolion yn nhermau eu haelodaeth o’r grwpiau cymdeithasol y perthynant iddynt. Yn wir, dadleua rhai fod y grwpiau hyn yn meddu ar fodolaeth (y genedl, er enghraifft, ym meddwl rhai cenedlaetholwyr traddodiadol) yn annibynnol ar eu haelodau.¹ Hyd yn oed os na dderbynnir hynny (nid yw safbwynt o’r fath yn boblogaidd heddiw, ond yr oedd felly yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg), ni ellir gwadu mai ffenomen...

  10. 5 Sut y gall Cymru fod (pp. 109-134)

    Nid heb achos y dywed Dafydd Glyn Jones fod safbwyntiau ‘ ôlgenedlaetholaidd, neo-Victoraidd’ at y Gymraeg yn nodwedd ar y gymdeithas Gymreig heddiw.¹ Y rheswm amlwg am hyn yw bod disgwrs Cymreig yr unfed ganrif ar hugain yn barhad o ddisgwrs y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Tueddfryd rhyddfrydol a dyneiddiol y mudiad cenedlaethol; parodrwydd i gydweithio â’r Chwith Brydeinig; diffyg deall fod i Geidwadaeth Gymraeg gyn henid swyddogaeth wrthdrefedigaethol hollbwysig; nerfusrwydd ynghylch annibyniaeth gan ffafrio yn hytrach ymreolaeth oddi mewn i Brydain; cydymdeimlad â lleiafrifoedd mewn llefydd eraill yn y byd ochr yn ochr â chyndynrwydd i ymrafael â’r gorthrwm...

  11. 6 Terfyn (pp. 135-140)

    Diffyg mewn syniadaeth sydd wrth wraidd methiant cened laetholdeb yng Nghymru. Er mwyn sicrhau hunaniaeth gwlad mewn gwladwriaeth fwy, mae’n rhaid i genedlaetholwyr fod yn gyfrwys. Rhaid iddynt ymhyfrydu yn neilltuolrwydd eu cenedl, ac arbenigrwydd eu hiaith ac ymdrefnu’n boliticaidd fel y bo’u cymdeithas yn dod, yn rhinwedd ei neilltuoldeb, yn gymdeithas gyffredinol ei hun. Rhaid iddynt wrthsefyll cymathiad diwylliannol ac ieithyddol, yn wir ‘ ethnig’, ar bob cyfrif, ac ymdoddiad yn y sifig mwyafrifol. Ni wnaeth y Cymry mo hynny.

    Yn hytrach, ymestynnent eu cefnogaeth ddiamod i Ryddfrydiaeth fwyafrifol y Saeson, fe’u llyncwyd gan y sifig Seisnig, a dyma’r...

  12. Nodiadau (pp. 141-182)
  13. Mynegai (pp. 183-195)
  14. Back Matter (pp. 196-196)

Access

You are not currently logged in.

Login through your institution for access.

login

Log in to your personal account or through your institution.